Mae tref farchnad Treffynnon nid yn unig yn ateb gofynion siopa
pobl y dref ei hun, ond hefyd gofynion y pentrefi cyfagos o fewn
dalgylch naturiol y dref.
Mae’r pentrefi o fewn dalgylch naturiol y dref yn cynnwys:
Bagillt, Brynffordd, Carmel, Gorsedd, Helygain, Licswm, Lloc,
Mostyn, Pantasaph, Pentre Helygain, Rhes-y-cae,
Rhosesmor,Trelawnyd,Rhydwen, Ysceifiog, a thref Caerwys.
Yn ogystal, mae cymunedau bach gwasgaredig eraill o fewn yr
ardal hon, bob un o fewn radiws o chwe milltir i Dreffynnon. Mae’r
pentrefi hyn wedi eu cysylltu gyda Treffynnon gan wasanaethau bws
cyson.
Er taw 8,758 oedd poblogaeth Treffynnon yn ôl y cyfrifiad
diwethaf yn 1991, pan ychwanegir poblogaeth y pentrefi uchod, a’r
cefn gwlad o amgylch, sef 14,775 yn ôl yr un cyfrifiad, gwelir
fod Treffynnon yn gwasanaethu, neu a’r gallu i wasanaethu
cyfanswm poblogaeth o fwy na 23,000.
Gellir cael gafael ar fwy o wybodaeth yngln â phoblogaeth Sir
y Fflint, ac ystadegau sy’n berthnasol i’r sir a phob rhan
ohoni, trwy ymgynghori â Llyfrgell Gyfeirio a Gwybodaeth Canolog
Cyngor Sir y Fflint ar 01352 - 704411.
Mae bron i 140 busnes yng nghanol tref Treffynnon a thua 50% yn
fan werthwyr gyda’r gweddill yn fusnesau gwasanaeth/ masnachol.
Gyda’i gilydd mae’r busnesau hyn yn cyflogi 800 o staff llawn
a rhan amser. Mae’r mwyafrif yn fusnesau annibynnol teuluol ac
ychydig yn allfeydd cadwyn lleol a chwmnïau cenedlaethol fel
Woolworths, Peacocks, Iceland Somerfield, Kwiksave, Banc HSBC,
Banc Barclays, Banc y National Westminster, a’r Abbey National.
Mae amrywiaeth o fusnesau eraill y tu allan i ganol y dref, ond
o fewn ffiniau’r dref. Yn ychwanegol mae tua 30 o fusnesau
masnachol a diwydiannol mawr a maint canolig wedi’u sefydlu ym
Mharc Busnes Maesglas, a tua 50 o fusnesau llai wedi’u sefydlu
gerllaw yng Nghanolfan Fusnes Maesglas, lle mae cyfleusterau
hyfforddi hefyd ar gael ar gyfer busnesau newydd a dibrofiad sy’n
cael ei ddarparu gan y gweithredwyr, Menter Sir y Fflint Cyf.
Gellir cael manylion pellach am Barc Busnes Maesglas, y
cwmnïau sydd wedi sefydlu yno, a chaffaeledd unedau a swyddfeydd,
drwy gysylltu ag Adran Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint ar 01352-703226.
Ceir gwybodaeth debyg am Ganolfan Busnes Maesglas drwy ffonio 01352-717717.
Yn ychwanegol, gall Adran Datblygu Economaidd y cyngor sir
hefyd gynnig cyngor a gwybodaeth gyffredinol am ddatblygiad
economaidd, anogaethau busnes, a chaffaeledd safleoedd manwerthu a
masnachol ayb yng nghanol tref Treffynnon.
Mae gan Treffynnon hefyd Siambr Fasnach ei hyn. Y cadeirydd yw
Mr Peter Richards, sy’n Uwch-bartner gyda Chyfreithwyr Clement
Jones, a gellir cysylltu ag ef ar 01352-713353.
Cliciwch yma i weld rhestr o fusnesau Treffynnon