Ystafelloedd Cyfarfod a Lleoliadau Digwyddiadau

Hafan

Mae’r rhestr hwn o ystafelloedd cyfarfod a lleoliadau digwyddiadau yn Nhreffynnon wedi ei gasglu i gynorthwyo cymdeithasau sy’n chwilio am leoliad ar gyfer cyfarfodydd neu ddigwyddiadau yn Nhreffynnon. Darparwyd y manylion am bob lleoliad gan y perchennog, rheolwr neu berson arall sydd a’r awdurdod i gynrychioli’r perchennog, ac wedi cael eu derbyn a’u hatgynhyrchu mewn ewyllys da.

Ni allwn felly warantu bod y manylion sy’n gysylltiedig ag unrhyw leoliad a restrwyd yn gywir, na bod y lleoliad yn addas ar gyfer unrhyw weithred sy’n cael ei drefnu, ac rydym yn argymell yn gryf y dylid gwneud archwiliad personol o’r lleoliad sy’n bwriadu cael ei ddefnyddio cyn archebu, er mwyn asesu ei addasrwydd.

Nid yw’r ffaith bod lleoliadau wedi eu cynnwys ar y rhestr hwn yn golygu eu bod ar gael i’w llogi bob amser, gan fod nifer ohonynt eisoes yn cael eu defnyddio ar amledd amrywiol gan nifer o fudiadau Treffynnon.

Mae’r trefniadau llogi a manylion eraill sy’n berthnasol i’r lleoliadau a restrwyd yn dueddol o newid o dro i dro, a byddwn yn ddiolchgar os gallech ein hysbysu o unrhyw newid mewn amgylchiadau a ddewch ar eu traws tra’n ceisio llogi un o’r lleoliadau a restrwyd isod, i’n galluogi i gywiro’r manylion yn gyfatebol.

Trosglwyddwch unrhyw gywiriadau i:

Medwyn Roberts,

Rheolwr Canol Tref Treffynnon,

Swyddfeydd Bank Place,

Bank Place, Treffynnon,

Sir y Fflint CH8 7TJ

Neu dros y ffôn neu’r ffacs ar 01745-710333.

 

A fyddech cystal â chlicio ar y lleoliad o’ch dewis am fanylion pellach

Twristiaeth

Am Dreffynnon

Ble ydym ni

Cysylltu â ni

Clybiau a Mudiadau

Proffil Busnes

Lleoliadau i'w llogi

Llywodraeth Leol

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Be' sydd ymlaen

Bwrdd Negeseuon

Dolenni