Cafodd Treffynnon ei enwi ar ôl ei brif nodwedd, sef Ffynnon Sanctaidd
Santes Gwenffrewi. Mae’n Fyd enwog, ac yn un o Saith o Ryfeddodau Cymru, sydd
a llawer i’w gynnig i’r ymwelydd.
Wedi’i lleoli yng nghefn gwlad Gogledd Ddwyrain Cymru ac yn edrych dros
aber yr Afon Ddyfrdwy, nid yw canol y dref farchnad draddodiadol hon wedi newid
fawr dros y canrifoedd diwethaf, fel y mae’r amrywiaeth o adeiladau o gyfnod
Georgaidd a Fictorianaidd hwyr yn ei dystio.

Ar un adeg, roedd Treffynnon yn bwerdy oedd yn cyflenwi llafur
i wasanaethu’r ffatrïoedd a’r melinau oedd wedi’u sefydlu gerllaw yn
Nyffryn Maesglas yn ystod y 18fed ganrif, sydd bellach yn ran o Barc Treftadaeth
Dyffryn Maesglas. Erbyn heddiw, mae’r dref yn le llawer mwy llonydd, gyda’i
chanolfan siopa di-gerbydau yn gwasanaethu anghenion siopa ac hamdden ymwelwyr a
thrigolion lleol.
 |
Mae Treffynnon hefyd yn ganolfan ddelfrydol
ar gyfer anturio yn y gefnwlad gyfagos, gyda’i phentrefi tlws a’i
thafarndai gwledig dymunol sydd i’w gweld ar wasgar o ucheldir
panoramig Comin Helygain i lawr at lannau urddasol yr Afon Ddyfrdwy. |