Mae’r Cyngor Sir yn darparu’r rhan fwyaf o wasanaethau gan
gynnwys Addysg, Priffyrdd, Tai, Iechyd Amgylcheddol, Gwasanaethau
Cymdeithasol, Llyfrgelloedd, Gwasanaethau Adloniant ac ati.
Lleolir Gyngor Tref
Treffynnon yn:
Swyddfeydd Bank Place
Treffynnon
Sir y Fflint
CH8 7TJ
Ffôn: 01352 711757
Ffacs: 01352 711202
Cafodd Cyngor Tref Treffynnon archebiant o £85,000 yn 2001/02 ac
yn 2002/03 bydd yr archebiant yn £90,000.
Mae gan y Cyngor swyddogaethau statudol cyfyngedig ond mae’n
darparu gwasanaethau i Dreffynnon a Maesglas sy’n cael eu
gwerthfawrogi’n fawr, gan gynnwys:
- Arddangosfeydd a goleuadau Nadolig ar y strydoedd.
- Cystadleuaeth Cymru yn ei Blodau blynyddol (wedi ennill ail
safle ddwy waith).
- Darparu goleuadau llwybrau troed ychwanegol.
- Datblygiad o wefan Treffynnon.
- Darpariaeth o adloniant stryd.
- Pamffled Dwristiaeth Treffynnon.
- Ariannu’r cynllun chwarae yn Nhreffynnon a Maesglas.
- Rheolwr Canol Tref (un o’r cyntaf yng Nghymru).
- Ariannu mesurau i arafu traffig.
- Grantiau i fudiadau lleol, £4,700 yn 2001/02.
- Darparu ac atgyweirio Llochesau Bws, Binnau Ysbwriel,
Hysbysfyrddau, Polion Baner ac ati.
Cynhelir cyfarfodydd arferol y Cyngor ar y trydydd Dydd Mawrth o
bob mis (heblaw mis Awst). Cynhelir y cyfarfod blynyddol ym mis Mai.
Cynhelir y Pwyllgorau Ariannol yn ystod mis Ionawr/Chwefror a Mehefin.
Gelwir is-bwyllgorau Cymru yn ei Blodau, Canol Tref a Swyddfeydd y
Cyngor pan fo’r angen yn codi.
Mae gan y Cyngor 17 o aelodau yn cynrychioli 4 o Wardiau. Y wardiau
yw Dwyrain Treffynnon (4 aelod); Canol Treffynnon (4 aelod); Gorllewin
Treffynnon (4 aelod); a Maesglas (5 aelod).
Cyfansoddiad gwleidyddol y cyngor yw Llafur (12); Plaid Cymru (4) a
Democratiaid Rhyddfrydol (1).
Mae’r Cyngor Tref yn cael ei wasanaethu gan y Clerc/Trysorydd
Astley Jones, ac oriau’r swyddfa yw 9am - 12.30pm dydd Llun tan
ddydd Gwener.
Mae gan y Cyngor hefyd Reolwr Canol Tref, Medwyn Roberts, a gellir
cysylltu ag ef ar y ffôn/ffacs ar 01745 710333