Gall ymwelwyr ymlacio yng nghanol y dref hanesyddol, hen ffasiwn ac
heddychol hon sydd wedi'i phedestrineiddio, a blasu bywyd hamddenol
sydd bron a mynd yn angof yn y byd cyflym sydd ohoni heddiw.
Yma gallwch fynd am dro neu eistedd yn gyfforddus ac edmygu
pensaernïaeth dros 60 o adeiladau cofrestredig, gwylio ac efallai
teimlo eiddigedd at y bywyd hamddenol a fwynheir gan y bobl leol neu
bori drwy'r nwyddau sydd ar gynnig gan bron i gant o siopau bychain,
teuluol yn bennaf.
Ymwelwch a'r dref ar ddydd Iau neu ddydd Sadwrn a gallwch yn
ogystal fwynhau yr olygfa o farchnad stryd liwgar awyr agored ac yn
ystod yr haf ar ddydd Gwener a Sadwrn gallwch weld rhyw fath o
adloniant gan gerddorion stryd sy'n cael eu tynnu yma gan awyrgylch
gyfeillgar tref fechan.
Am fwy o wybodaeth gyffredinol byddwch cystal â ffonio 01352
711757 / 01745 710333
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Marchnad Treffynnon ffoniwch
01352 703110 / 703112