Gall Treffynnon ymfalchïo yn y ffaith fod ganddi un
o ganolfannau hamdden gorau Gogledd Cymru, gydag amrywiaeth o
gyfleusterau y tu mewn a thu allan.
Mae rhain yn cynnwys pwll nofio i blant a phwll
llawn maint, cyfleoedd i chwarae sboncen, badminton, pêl raced,
snwcer, tenis bwrdd a llu o chwaraeon eraill.
Ar ben hyn mae gan y ganolfan hamdden ystafell ffitrwydd, sawna,
canolfan wely haul, jacwsi, meithrinfa, caffi a bar drwyddedig.