Mae Parc Treftadaeth & Gwledig Dyffryn Maesglas
yn barc 1 ½ milltir llinellol o hyd ac yn dilyn cwrs Nant Treffynnon
rhwng y dref ac aber yr afon Ddyfrdwy, lle rhedodd unwaith y
rheilffordd mesur safonol fwyaf serth yn y DU.
Yma, yn ogystal â Ffynnon Sanctaidd Santes
Gwenffrewi ac Abaty Dinas Basing o’r 12fed Ganrif, gorwedda
gweddillion nifer o adeiladau melin hanesyddol, a nifer ohonynt erbyn
hyn yn gofadeiladau rhestredig hynafol.
Yn fwy diweddar symudwyd bythynnod, tai fferm ac hyd
yn oed Ysgol Fictorianaidd yma garreg wrth garreg o leoliadau eraill,
a’u hail godi’n ofalus a’u dodrefnu fel ac yr oeddynt yn y
canrifoedd a fu.