Mae Treffynnon yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer anturio yn y
gefnwlad gyfagos, a darganfod ei hatyniadau.
O fewn ychydig filltiroedd o’r dref er enghraifft, mae yna bedwar
cwrs golff, cyfleusterau marchogaeth ceffylau a merlota, ac ar gyfer y
pysgotwr, mae chwe pysgodfa bras neu frithyll dwr llonydd, yn ogystal
â physgota môr ar foryd yr Afon Dyfrdwy.
Ar gyfer y cerddwyr mae Comin Helygain, a rhwydwaith o lwybrau
cerdded a llwybrau marchog iw darganfod, gan gynnwys Llwybrau Pennant
sydd wedi eu cyfer bwyntio. Ar gyfer y modurwr, mae lonydd gwledig
distaw yn cysylltu pentrefi hardd, gyda golygfeydd bendigedig o
amgylch bob troad.
Mae yna hefyd nifer o atyniadau ymwelwyr eraill o fewn cyrraedd
hawdd i’r dref.
Ym mhentref bach Llannerch-y-Môr ar lannau’r Afon Ddyfrdwy, mae
tafarn to gwellt hen ffasiwn, ac hefyd Abakhan Fabrics sydd wedi ei
leoli mewn hen felin, ac wedi eu gwobrwyo am y gwaith o’i hadfer,
gyda siop felin adnabyddus. I gyfeiriad arall, yn Afonwen, cewch hyd i
Ganolfan Grefft a Hen bethau Afonwen wedi ei lleoli yn Nyffryn hardd
Gwespyr.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01745 710333